Adolygiad - 01 Mawrth 2025
Will Taylor yw un o drigolion lleol Dyffryn Dyfi a wnaeth dewis prynu'r beic A.150 gan ddewis yr holl gydrannau yn unigol.
"Dwi’n 6 troedfedd a 6 modfedd o daldra felly roedd yn hynod o bwysig imi gael beic oedd yn ffitio’n gywir."
Dwi yw perchennog balch y beic A.150 ffrâm rhif AO173 maint 510mm yn y maint ‘extra tall’ (rhif 18 o 22 maint safonol). Dewisais yr A.150 gan ei fod yn addas ar gyfer y math o feicio dwi fel arfer yn ei wneud ac roedd modd addasu’r beic i weddu i’m hanghenion i. Yn benodol, dewisais Fox DHX2 sioc cefn efo sbring 700lb, forc Fox 38, breiciau Hope V4 220 rotor blaen a 200 cefn, a set olwynion Hope tech 4 gyda Continental Kryptotal teiars, stem a fariau Renthal.
Dwi’n 6 troedfedd a 6 modfedd o daldra felly roedd yn hynod o bwysig imi gael beic oedd yn ffitio’n gywir. Roedd yr A.150 dim ond cwpl o filimetrau i ffwrdd o ffit berffaith, ac felly’n debyg iawn i gael beic mewn maint personol ond am ffracsiwn y pris. Dwi hefyd yn caru’r ffaith cafodd y beic ei greu yn Fachynlleth ac yn felly roeddwn i’n gallu cael dylanwad mawr o ran pa gydrannau defnyddiwyd yn y proses adeiladu. Fe wnes i demo ar yr A.150, ac er nad oedd beic demo yn 100% y maint cywir i fy nhaldra, roeddwn yn hoff iawn o deimlad y beic ac felly gosodais archeb.

Rydw i wedi bod yn ymweld â Dyfi ers fod yn blentyn ac wedi gwneud ffrindiau gwych ers bod yma. Rwy’n gweithio fel saer a 16 mlynedd yn ôl cefais y cyfle i symud i Fachynlleth ar gyfer swydd dros-dro; dwi byth wedi edrych nôl! Rwyf wrth fy modd yn byw yma am nifer o resymau… yn enwedig y beicio.
Yr wyf yn nawr yn reidio efo pobl debyg i mi sydd wrth eu boddau yn mynd allan a mwynhau harddwch y bryniau a mynyddoedd sy’n ein hamgylchynu. Mae cymaint o lwybrau beicio gwych yng Nghoedwig Dyfi a dwi’n hoff iawn o ‘White Rocks' yn Forge a’i hawyrgylch hamddenol.
Pob hyn a hyn rwy’n beicio ym Mharc Beicio Dyfi, a hefyd yn Morzine. Dwi’n tueddu trio ffitio beicio o gwmpas bywyd gwaith prysur ac ychydig o hobïau eraill ond yn mwynhau mynd allan a beicio pan fod cyfle. Yn benodol, yn fy amser hamdden dwi’n mwynhau chwarae o gwmpas efo fy nghar clasurol, yn ogystal â chwarae golf ac eirfyrddio.
Rydw i hefyd yn aelod o ddim Achub Mynydd Aberdyfi. Fe wnes i ddechrau beicio yn wreiddiol efo fy nghefnderoedd hŷn i lawr yng Ngwlad yr Haf a’r Cotswolds. Treuliais amser yn prynu pob math o ddarnau i adeiladu fy meic delfrydol, er nes i erioed gyrraedd hynny! Fe wnes i feicio ychydig yn llai ar ôl dysgu i yrru, er wnaeth fy angerdd ar gyfer y gweithgaredd dychwelyd yn fuan, ac rwyf wedi fy ngwirioni yn llwyr ers hynny.
Dwi erioed wedi bod yn rhan fawr o’r maes rasio gan fy mod yn ystyried beicio mwy fel ffordd o ymlacio ar ôl diwrnod hir o waith neu fel ffordd o wella fy ffitrwydd pan fydd yn heulog. Er hyn, fe wnes i rasio pan ddaeth y gyfres ‘Gravity Enduro’ i Aberangell ac mae gen i fynediad ar gyfer yr ‘Antifreeze’ ym mis Mawrth fel targed i’w hanelu ato cyn y Gwanwyn a’r Haf.
Roedd fy mhrofiadau cyntaf yn beicio ar yr A.150 yn Ffrainc mewn i lawr prif ffordd Pleney yn Morzine. Fe wnes i gasglu’r beic tua mis cyn i mi fynd allan i Ffrainc am y tymor ond roedd cymaint i’w pharatoi na chefais gyfle i reidio yn y DU cyn i mi adael!
Ni fyddwn yn ystyried fy hun yn feiciwr digon profiadol i fynd mewn i fanylder dwfn, ond un peth nes i sylwi yn syth yw bod yr Atherton cymaint yn fwy hwyl i reidio na fy meic blaenorol. Roeddwn wedi reidio yn Ffrainc ar fy hen feic (y Trek Slash 8) y flwyddyn cynt felly roedd gen i rywbeth i gymharu efo. Am wahaniaeth! I ddechrau, roedd defnyddio beic oedd yn ffitio’n gywir wedi gwneud byd o wahaniaeth, yn ogystal â’r dewis i adeiladu’r beic yn union fel yr oeddwn i eisiau. Yn flaenorol, rydw i wastad wedi teimlo fel bod angen cyfaddawdu mewn rhyw ffordd wrth brynu beic newydd; ond nid efo’r A.150. Cysur hefyd yw gwybod bod y beic yn alluog o wneud pethau nad ydw i byth mynd i’w wneud arno. Braf yw gweld y tîm rasio yn cystadlu efo’r un beic ar y safon uchaf, yn enwedig gweld Dan a Gee yn reidio blychau enfawr, a Jim yn beicio hefyd. Does dim dwywaith amdani mai’r unig ffactor cyfyngu yw fu allu i!
Ers fy reidiau cyntaf roeddwn yn gwybod fy mod wedi gwneud y dewis cywir. Mae’r cyfuniad o gael beic sy’n ffitio’n gywir a rhannau rwyf yn ymddiried ynddynt ac sy’n teimlo’n wych wedi siapio fy mhrofiad arbennig o’r Atherton. Does dim amheuaeth gennyf yn y beic o gwbl, sy’n gwneud beicio cymaint yn fwy cyfforddus. Rwyf wrth fy modd yn mynd allan i’r bryniau heb angen meddwl am uwchraddio neu newid rhan. I mi, yr A.150 yw’r pecyn perffaith.
Pan gefais y beic yn wreiddiol ac roeddwn yn ei ddefnyddio mas yn Ffrainc roedd yn fagnet i bobl ddod ac edrych arno i weld y fframwaith, hyd nes roedd yn anodd gadael e ar ben ei hunain am unrhyw gyfnod o amser. Roedd nifer o sylwadau ar sut olwg oedd ar y beic a’r dull adeiladu gwanhaol gyda thiwbiau a ‘lugs’.
Braf oedd cael rhoi ychydig o gefndir fy mod yn byw mor agos i bencadlys Athy Bikes ac yn y blaen. Nid oeddwn yn dod ymlaen yn dda gyda’r crogiant (‘suspension’) ar fy meic Trek, ond ar yr A.150 wnes i chwarae o gwmpas ag ef nes i mi ddarganfod cydbwysedd da.
Dwi’n meddwl gall gosodiad crogiant gael ei gor-gymhlethu yn aruthrol. Cyrhaeddais i bwynt roeddwn yn hapus gydag a’i adael ac mae wedi bod yn iawn ers hynny! Er nad oes gen i lawr o ddealltwriaeth ynglŷn â gosodiad beiciau, rwyf yn hoff iawn o sut mae’r ffrâm a’r crogiant yn darparu teimlad trwy gydol y beic. Mae’r A.150 wirioneddol yn y pecyn llawn o ran edrychiad a gallu i reidio; nid oes unrhywbeth arall ar y farchnad ar hyn o bryd byddwn yn ystyried prynu yn lle.
Dwi’n weddol hamddenol o ran fy steil beicio. Rwyf wrth fy modd â llwybrau hir sy'n llifo gyda chymysgedd o dechnoleg wahanol i fy nghadw’n effro. Mae felly’n gwneud y byd o wahaniaeth bod gan y beic Atherton yr allu i addasu i ba bynnag lwybr rwy’n ffansio.
Does dim angen i mi ei reidio mewn ffordd arbennig i gael y gorau ohono, mae’n caniatáu mi i ddatgysylltu’n llwyr o bopeth arall ac i fwynhau’r foment. Mae’r beic yn gwneud yn union yr hoffwn ei wneud ar y llwybrau ac yn y parc, ac yn fwy na hynny mae'n rhoi gwên ar fy wyneb. Dyna’r beth pwysicaf, yn tydi?
More on the A.150...
Our hard-hitting, confidence-inspiring enduro bikes are designed, built and tested to the extreme in the Dyfi Valley. Our 150s are the perfect all-rounders.
More like this...
Responsive and playful with a mullet set-up, the S150 turns on a dime. With 150mm travel on the rear and 160mm up front, you can boost off every lip and it eats up everything you can throw at it. Then, thanks to its efficient seated pedalling position, it climbs back up like a mountain goat.
Overall the whole experience from the first email through to picking the bike up and now progressing my riding with my perfect bike underneath me, the whole thing has been great. I feel when you buy and Atherton you’re buying into something unique, heightened by the fact that the Atherton Bikes brand also has a bike park as its big brother!!




